Disgrifiad rhanbarthol

Lleolir Bae Conwy ar arfordir gogledd-orllewin Cymru, wedi ei amgylchynu â chefn gwlad godidog Cymreig a mynyddoedd trawiadol Eryri. Mae Conwy yn dref ganoloesol sy’n gyfoethog ei hanes â chastell gwefreiddiol o’r 13eg ganrif yn ganolbwynt iddi. Mae gan Bae Conwy roedd unwaith yn gartref i un o bysgodfeydd cregyn gleision perlog pwysicaf yn y DU ac yn darparu nifer sylweddol o berlau i emwyr yn Llundain yn y 1800au cynnar. Gwnaed ymchwil pysgod cregyn hanfodol yng Ngorsaf Arbrofol Pysgodfeydd y Weinyddiaeth Amaeth a Pysgodfeydd (MAFF bellach yn CEFAS) i gefnogi pysgodfeydd rhwng 1919 a 1999, ac ar hyn o bryd mae gan y rhanbarth bysgodfa cregyn gleision hunangynhaliol ag effaith isel sydd yn dal i ddefnyddio cribinau llaw traddodiadol. Mae Bae Conwy hefyd yn rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig dynodedig gyda gynefinoedd tanfor unigryw yn ogystal â phlanhigion ac anifeiliaid morol pwysig.
Roedd gan Gymru unwaith bysgodfa doreithiog ar gyfer yr wystrys brodorol a oedd yn ffynhonnell fwyd hanfodol i’r cymunedau arfordirol lleol ac roedd yn gyfraniad pwysig at economi Cymru. Pysgodfa sylweddol y Mwmbwls neu Ystum Llwynarth oedd y mwyaf yng Nghymru, yn cefnogi 400 o bysgodfeydd ar draws 188 o gychod. Yn ardal Bae Conwy, roedd gwelyau wystrys brodorol cynhyrchiol hefyd yn ystod yr 18eg a’r 19eg ganrif yn yr Afon Menai ger Caernarfon a Bangor, Ynys Seiriol ac o amgylch Ynys Môn, yn Rhoscolyn ac Ynys Llanddwyn. Yn ei hanterth, nododd cychod wystrys Cymru eu bod yn casglu tua 8,000 o wystrys y diwrnod, ac hyd at 15,000 – 20,000 mewn rhai ardaloedd. Er hyn, roedd pysgota am wystrys brodorol yng Nghymru wedi dechrau llawer iawn cynt, gyda wystrys brodorol wedi’i ddarganfod yn dyddio nôl i’r Oes Neolithig a’r Oes Efydd (tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl!). Yn anffodus dim ond ychydig o boblogaethau wystrys brodorol bach sydd ar ôl yng Nghymru, ond trwy weithio gyda’n gilydd rydym yn gobeithio helpu i adfer y rhywogaeth hanesyddol bwysig hon a chynnal cefnfor sy’n llawn bywyd.

Lleoliadau Meithrin

Wedi’i lleoli yn un o aberoedd prysuraf Gogledd Cymru, mae Marina Conwy ar lan y gorllewin ac mae Marina Deganwy ar lan dwyreiniol yr Afon Conwy sy’n llifo i Fôr Iwerddon. Mae’r marinâu wedi eu lleoli ar lecyn hyfryd o arfordir Gogledd Cymru gyda golygfeydd naturiol ar hyd Parc Cenedlaethol mwyaf Cymru, sef Parc Cenedlaethol Eryri. Gyda mynediad gwych i’r priffyrdd a’r dŵr, gall aelodau’r marina fentro’n hawdd i gyrchfannau hwylio dymunol megis o amgylch Ynys Môn, Lerpwl, neu archwilio tapestri cyfoethog Conwy a’r ardaloedd cyfagos.

Deganwy Marina

Deganwy Marina, Deganwy Quay,
Deganwy, Conwy LL31 9DJ

deganwymarina.co.uk/

Conwy Marina

Conwy Marina, Conwy Marina Ellis Way,
Conwy LL32 8GU

boatfolk.co.uk/conwy-marina-wales

Partneriaid Darparu Lleol

Rydym yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor, ein partner darparu lleol, er mwyn darparu Hwb Adfer Wystrysen Bae Conwy.

Sefydlwyd Prifysgol Bangor

Sefydlwyd Prifysgol Bangor ym 1884, ac erbyn heddiw mae’n sefydliad sy’n ffynnu, yn flaengar ac sy’n cynnig cyfleoedd ardderchog. Mae tua 10,000 o fyfyrwyr yn astudio yno ar hyn o bryd, ac mae’r dysgu a’r ymchwil wedi eu rhannu i bedair ar ddeg o Ysgolion academaidd.

Dewch i adnabod eich swyddog prosiect lleol:

Maria Hayden-Hughes

Mae Maria yn wyddonydd morol sydd wedi astudio a gweithio yng Nghymru am yr 8 mlynedd diwethaf. Mae hi hefyd yn ymchwiliwr ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio ar Y Ganolfan Pysgod Cregyn, prosiect ymchwil ac arloesi sy’n cefnogi datblygiad y sector pysgod cregyn yng Nghymru. Mae ymchwil flaenorol Maria wedi ymchwilio i ryngweithiadau amgylcheddol, bioamrywiaeth a dynameg poblogaeth ar gyfer ystod o rywogaethau pysgod cregyn.

Sut y gallwch chi gymryd rhan?

Os hoffech chi gymryd rhan yn ymdrechion adfer wystrys Bae Conwy, cysylltwch â Maria wrth gysylltu â Wild.Oysters@zsl.org.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn cynnydd lleol hwb adfer Bae Conwy, rydym yn eich gwahodd i ymuno a’n grŵp Facebook caeedig.

Rydym yn croesawu cyswllt gan wirfoddolwyr, lleoedd addysg a grwpiau cymunedol!